Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
CLA(4)-29-13: Papur 1
GWYBODAETH GEFNDIR AM OFFERYNNAU STATUDOL GYDAG ADRODDIADAU CLIR
CLA331 - Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2013
Gweithdrefn: Negyddol
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithredaeth) (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2007 i ddarparu na fydd hyrwyddo neu wrthwynebu Biliau Preifat yn y Cynulliad Cenedlaethol[1]na phenderfyniadau sy’n ymwneud â Rheoliadau Absenoldeb Teuluol ar gyfer Aelodau Awdurdodau Lleol (Cymru) 2013 yn swyddogaethau gweithrediaeth awdurdod lleol.
CLA332 – Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2012
Gweithdrefn: Negyddol
Mae Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006 ("y Prif Orchymyn") yn cynnwys mesurau sy’n anelu at atal heintiau ac afiechydon niweidiol ymysg planhigion rhag dod i mewn a lledaenu. Mae’n gwneud hynny drwy ei gwneud yn ofynnol i hysbysu arolygwr awdurdodedig pan gaiff rhywogaethau penodol o goed eu mewnforio. Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio’r prif Orchymyn drwy wneud mân-ddiwygiadau i’r materion y mae’n rhaid hysbysu yn eu cylch drwy ddarparu nad oes angen hysbysu ynghylch rhai materion penodol. At hynny, mae’r Gorchymyn yn gwahardd planhigion penodol rhag cael eu glanio yng Nghymru os ydynt wedi cael eu tyfu mewn aelod-wladwriaeth arall neu yn y Swisdir, neu os amheuir eu bod wedi cael eu tyfu yno, oni hysbysir arolygwr awdurdodedig o flaen llaw.
CLA333- Gorchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu a Diddymu) (Cymru) 2013
Gweithdrefn: Negyddol
Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio enwau Byrddau Iechyd Lleol Aneurin Bevan, Cwm Taf a Hywel Dda i adlewyrchu eu statws fel Byrddau Iechyd Lleol Prifysgol